Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 15 Tachwedd
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4004
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Dechreuodd yr eitem am 14.37
Dechreuodd yr eitem am 15.11
Dechreuodd yr eitem am 15.41
Dechreuodd yr eitem am 16.17
Dechreuodd yr eitem am 16.50
NDM6135 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2016.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6136 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2015-16.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benderfynu gweithredu argymhellion yr adroddiad, ac yn benodol y rhai sy'n berthnasol i:
a) gwella profiadau plant o ofal iechyd meddwl;
b) cyflwyno trefn weithredu genedlaethol ar gyfer eiriolaeth statudol fel mater o flaenoriaeth; ac
c) cryfhau'r gofynion cofrestru ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
35 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros Gomisiynydd Plant Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
25 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6136 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2015-16.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
0 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.31
Daeth y cyfarfod i ben am 17.33
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 16 Tachwedd 2016